SL(6)385 – Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae paragraff 2(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu, wrth lunio rhestr ardrethu annomestig, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w benderfynu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestr neu ar ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2024 fel y diwrnod y cyfeirir ato i benderfynu gwerth ardrethol hereditament annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf a lunnir ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

Craffu ar Rinweddau   

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Gorchymyn yn nodi’r canlynol:

“... mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn ddiofyn, i ostwng y cyfnod rhwng ailbrisiadau o bob pum mlynedd i bob tair blynedd. Wedi’r ailbrisio a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2023, bwriedir i'r ailbrisio nesaf ddigwydd ar 1 Ebrill 2026, yn amodol ar basio deddfwriaeth sylfaenol angenrheidiol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Medi 2023